Hygyrchedd Catalog Llyfrgell
Ymroddiad i hygyrchedd
Rydym yn ymroddedig i wella hygyrchedd catalog y llyfrgell i'n holl ddefnyddwyr. Mae hygyrchedd yn cael ei adolygu fel rhan o ddatblygiad parhaol y catalog ac mae croeso i adborth gan ddefnyddwyr trwy'r ddolen ar frig y dudalen.
Mae'r catalog yn cael ei ddatblygu i gydymffurfio â Menter Hygyrchedd y We (WAI) Consortiwm y We Fyd-eang (W3C), sef Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 1.0 (WCAG 1.0), gyda chydymffurfiad ar lefel dwbl A.
Mae'r dudalen hon yn disgrifio prif nodweddion hygyrchedd catalog y llyfrgell i helpu'r rhai sydd am eu defnyddio.
Dolen 'neidio i'r cynnwys'
Mae pob tudalen o'r wefan yn cynnwys dolen guddiedig sy'n galluogi technoleg gynorthwyol megis darllenwyr sgrin i neidio'n uniongyrchol i brif gynnwys y dudalen honno.
Maint a dull testun
Gallwch addasu gosodiadau'ch porwr i wneud newidiadau i wedd y wefan fel ei bod yn addas i'ch anghenion. Gallai hyn gynnwys maint testun, lliw testun a lliw cefndir.
Fel arfer, gellir dod o hyd i'r gosodiadau hyn trwy ddewislenni "Offer" neu "Golwg", o dan "Opsiynau Rhyngrwyd", "Opsiynau" neu "Maint Testun". Mae'n debyg y byddwch yn gallu cynyddu a lleihau maint testun trwy ddal i lawr Ctrl a gwasgu + neu -.
Symud o gwmpas
Os cewch anhawster i ddefnyddio llygoden, gallwch ddefnyddio bysell Tab i symud o gwmpas yr holl ddolenni, blychau mewnbwn a botymau ar bob tudalen. I symud yn ôl, daliwch fysell Shift a gwasgwch Tab. I weithredu dolen neu fotwm, gwasgwch fysell Enter. Rydych hefyd yn gallu defnyddio'r bysellau Page Up a Page Down i symud y dudalen i'r lle rydych eisiau darllen.
Technoleg gynorthwyol
Mae technoleg gynorthwyol yn gallu helpu os oes nam ar y golwg.
Mae darllenwyr sgriniau'n rhaglenni meddalwedd sy'n cyflwyno delweddau a thestun ar lafar. Bydd darllenwr sgrin yn darllen popeth sydd ar y sgrin, gan gynnwys botymau a dewislenni. Hyd yn hyn, nid yw'r catalog wedi ei brofi gydag unrhyw feddalwedd darllen sgriniau. Bydd cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe'n golygu y dylai weithio gyda'r rhan fwyaf o ddarllenwyr sgriniau.
Mae technolegau cynorthwyol eraill yn cynnwys meddalwedd tyfu'r sgrin neu chwyddwyr, adnabod lleferydd neu lais, syntheseiswyr lleferydd, dangosiadau braille y gellir eu hadfywio a boglynwyr braille. Cewch fwy o wybodaeth am y technolegau hyn ac agweddau eraill ar hygyrchedd yng Nghanolfan Mynediad Gwe RNIB.
Adborth
Rydym yn croesawu adborth oddi wrth unrhyw ddefnyddiwr i'n helpu i barhau i wella hygyrchedd catalog y llyfrgell.