Awgrymiadau chwilio catalog y llyfrgell
Chwilio syml
Teipiwch un neu fwy o eiriau sy'n disgrifio orau'r hyn rydych yn chwilio amdano neu rif e.e. ISBN, a gwasgwch fysell Enter neu cliciwch ar y botwm Chwilio.
Y canlyniad yw rhestr o lyfrau ac eitemau eraill sy'n cyfateb i'r chwiliad, gyda'r rhai mwyaf perthnasol yn ymddangos yn gyntaf. Efallai y bydd mwy o ganlyniadau ar ragor o dudalennau
Dyma awgrymiadau i'ch helpu i chwilio'n effeithiol, a chodi'r tebygrwydd y byddwch yn dod o hyd i'r hyn rydych eisiau.
Dewis geiriau chwilio
Os ydych yn chwilio am eitem benodol, dewiswch ychydig o'r geiriau mwyaf penodol o'r wybodaeth rydych yn gwybod amdani, megis enw'r awdur a'r teitl. Yn aml, mae dau air yn ddigon. Er enghraifft, i ddod o hyd i 'Cysgod y Cryman' gan Islwyn Ffowc Elis, rhowch gynnig ar elis cysgod. I ddod o hyd i 'Teulu Lord Bach' gan Geraint Vaughan Jones, rhowch gynnig ar jones teulu.
I ddod o hyd i'r hyn sydd gan y llyfrgell ar bwnc penodol, dechreuwch gyda'r prif air neu eiriau sy'n disgrifio'r pwnc. Am arweinlyfr teithwyr i Sbaen, rhowch gynnig ar arweinlyfr sbaen. Ar gyfer ffermio yng Nghymru, rhowch gynnig ar ffermio Cymru. Yn fwy penodol, ar gyfer defaid mynydd Cymreig, rhowch gynnig ar defaid Cymreig neu defaid Cymru.
Am ffyrdd eraill o wneud eich chwiliad yn fwy penodol, gweler yr adrannau isod ar Ymadroddion, Dewisiadau chwilio a Mireinio'r chwiliad.
Os nad yw'ch geiriau chwilio'n rhoi canlyniadau boddhaol, neu os nad ydych yn hollol siŵr beth rydych eisiau, gallwch ddefnyddio'r opsiynau Dewch o Hyd i Fwy i archwilio'r catalog – gweler adran Dewch o Hyd i Fwy isod.
Priflythrennau
Fel arfer, nid oes raid teipio priflythrennau. Mae'r holl lythrennau'n cael eu trin fel llythrennau bach, ni waeth sut rydych yn eu teipio. Er enghraifft, bydd Brenin Arthur a brenin arthur yn rhoi'r un canlyniadau i chi.
Mae dau achos arbennig lle mae priflythrennau'n cael eu defnyddio. Gweler yr adran ar 'Geiriau Eraill' ac 'Eithrio Geiriau'.
Acenion
Nid oes angen teipio acenion neu do bach ar lythrennau. Mae'r holl lythrennau ag acenion neu do bach yn cael eu trin yr un â llythrennau heb acenion. Er enghraifft, bydd chwiliadau am glân a glan yn rhoi'r un canlyniadau i chi.
Atalnodi
Nid oes angen teipio atalnodi megis collnodau, comas ac atalnodau llawn, am fod y rhain yn cael eu hanwybyddu. Er enghraifft, bydd chwiliadau am blair's britain a blairs britain yn rhoi'r un canlyniadau i chi. Mae hyn hefyd yn wir am y cyplysnod, ond i gael mwy am gyplysnodau, gweler yr adran ar 'Geiriau Eraill'.
Holl eiriau'n cyfateb
Cymerir yn ganiataol bydd canyliadau'r chwiliad yn dychwelyd dim ond teitlau llyfrau ac eitemau eraill sy'n cynnwys eich holl eiriau chwilio. Nid oes angen cynnwys 'a' neu 'ac' rhwng geiriau. I leihau nifer y canlyniadau, gallwch ychwanegu mwy o eiriau at eich chwiliad. Er enghraifft, ar gyfer arweinlyfr i Sbaen, rhowch gynnig ar arweinlyfr sbaen.
Geiriau wedi'u heithrio
Fel arfer, mae geiriau cyffredin iawn, megis 'a', 'and', 'of' ac 'the' yn cael eu gollwng o chwiliadau. Er enghraifft, bydd chwiliadau am o law i law a law i law yn rhoi'r un canlyniadau i chi. I gynnwys y fath eiriau i gulhau'r chwiliad, gweler yr adran ar Ymadroddion.
Gallwch leihau'ch canlyniadau trwy ddefnyddio'r gair NOT (rhaid iddo fod mewn priflythrennau) i ddweud wrth y catalog am eithrio canlyniadau sy'n cynnwys gair penodol. Er enghraifft, i ddod o hyd i ganlyniadau gyda'r gair eisteddfod, ond i eithrio'r rhai sydd hefyd â'r gair urdd, rhowch gynnig ar eisteddfod NOT urdd.
Geiriau eraill
Weithiau, yn ychwanegol at chwilio am yr union eiriau yn eich ymholiad chwilio, bydd y catalog hefyd yn rhoi cynnig ar eiriau tebyg. Mae hyn yn ychwanegol at anwybyddu priflythrennau, acenion ac atalnodi a ddisgrifiwyd uchod.
Bydd canlyniadau y deuir o hyd iddynt drwy'r geiriau tebyg hyn yn cael eu graddio'n is yn y rhestr ganlyniadau, ond gallent eich helpu i ddod o hyd i eitem ddefnyddiol y byddech wedi'i cholli fel arall.
Gall hyn fod yn fwy defnyddiol yn y Saesneg na'r Gymraeg.
Rhoddir cynnig hefyd ar amrywiadau sengl a lluosog ar fonion geiriau, felly bod cae a caeau i gyd yn dod o hyd i'w gilydd, fel mae memory a memories.
Mae cyplysnodau'n cael eu cadw, ond mae geiriau sydd â chyplysnodau hefyd yn cael eu trin fel gair unigol heb y cyplysnod, ac fel dau air ar wahân. Er enghraifft, bydd un-ar-hugain ac unarhugain yn dod o hyd i'r un canlyniadau, a bydd un ar hugain yn dod o hyd i'r un canlyniadau ynghŷd ag eraill sydd â'r ddau air hyn ar wahân.
Gallwch gynnwys eich geiriau eraill eich hunain trwy ragflaenu pob un â'r gair OR (rhaid iddo fod mewn priflythrennau). Mae hyn yn dweud wrth y catalog am ddod o hyd i ganlyniadau sy'n cynnwys y naill air neu'r ddau air hyn, yn ogystal ag eitemau sydd â dim ond un o'r geiriau hyn.
Ymadroddion
Os ydych yn chwilio am rywbeth sy'n cael ei fynegi fel ymadrodd, rydych yn gallu gwneud eich chwiliad yn fanylach trwy ddweud wrth y catalog am drin eich chwiliad fel ymadrodd yn hytrach na geiriau ar wahân. I wneud hyn, rhowch ddyfynodau o gwmpas eich geiriau chwilio a pheidiwch ag eithrio unrhyw eiriau yn yr ymadrodd. Gall hyn fod yn arbennig o effeithiol gyda theitlau, er enghraifft "o law i law" neu "te yn y grug".
Dewisiadau chwilio
Nesaf i'r botwm chwilio, gallwch weld dolen i Mwy o ddewisiadau chwilio. Mae hyn yn mynd â chi i dudalen lle rydych yn gallu dweud sut dylid trin eich geiriau chwilio trwy eu rhoi mewn blychau gwahanol mewn dau grŵp. Gallwch deipio geiriau mewn unrhyw gyfuniad o flychau ar draws y ddau grŵp i greu chwiliad.
Mae'r grŵp uchaf o flychau'n cynnig ffyrdd eraill o wneud rhai o'r un pethau a ddisgrifiwyd uchod.
- Mae Gyda'r holl eiriau hyn yr un fath â'r prif flwch chwilio.
- Mae Gyda'r union ymadrodd yr un fath â rhoi dyfynodau o gwmpas eich geiriau chwilio.
- Mae Gydag o leiaf un o'r geiriau hyn yr un fath â theipio OR rhwng eich geiriau.
- Mae Heb y geiriau hyn r un fath â theipio NOT rhwng eich geiriau. Dylid defnyddio'r blwch hwn dim ond ar y cyd ag un blwch arall o leiaf.
Mae'r grŵp is o flychau'n caniatáu i chi dargedu rhannau penodol o ddisgrifiadau eitemau gyda'ch geiriau chwilio, sy'n rhoi ffordd arall i chi gael canlyniadau manylach.
- Bydd Awdur yn dod o hyd i'ch gair neu'ch geiriau dim ond pan fyddan nhw mewn teitlau.
- Bydd Teitl yn dod o hyd i'ch gair neu'ch geiriau dim ond pan fyddan nhw mewn teitlau.
- Mae Dyddiad cyhoeddi yn caniatáu i chi bennu blwyddyn gyhoeddi.
- Mae Casgliad yn caniatáu i chi bennu eitemau sydd mewn casgliad penodol o'r llyfrgell. Mae'r opsiynau mewn yn rhestr y gwymplen.
- Mae Iaith yn caniatáu i chi bennu eitemau sydd mewn iaith benodol. Mae hyn yn gymwys i ddeunydd ysgrifenedig, llafar ac ar ffurf cân. Detholwch o'r gwymplen.
- Mae Fformat yn caniatáu i chi bennu eitemau sydd mewn fformat penodol, megis Awdio, Delwedd, Map neu Ar-lein. Detholwch o restr y gwymplen.
Gallwch ddefnyddio dyfynodau yn y blychau Awdur neu Teitl i bennu ymadrodd. Er enghraifft, dylai "te yn y grug" yn y blwch Teitl, gyda roberts yn y blwch Awdur roi i chi'n fanwl unrhyw fersiwn o lyfr Kate Roberts sydd yn y llyfrgell.
Mireinio'r chwiliad
Ar y dudalen ganlyniadau, ar y chwith, mae colofn sydd â'r pennawd Mireinio'r Chwiliad. Mae'r rhestr hon yn grwpio geiriau ac ymadroddion sy'n digwydd yn yr un set o ganlyniadau. Trwy glicio ar unrhyw un gair neu ymadrodd unwaith, rydych yn cael set lai o ganlyniadau, gan ganiatáu i chi ddod at yr eitemau o ddiddordeb.
Weithiau, gallai fod yn haws dechrau gyda chwiliad gweddol eang ac yna ei fireinio, gan ddefnyddio'r opsiynau a roddir. Er enghraifft, efallai y byddech eisiau fersiwn awdio o Martha, Jac a Sianco gan Caryl Lewis. Gallech ddechrau gyda chwiliad am martha jac a sianco ac yna dethol yr opsiwn Awdio pan gewch chi'r canlyniadau.
Trefnu'r canlyniadau
Yng nghornel uchaf, dde'r dudalen ganlyniadau mae cwymplen gyda'r label Trefnwyd yn ôl. Y drefn ddiofyn yw yn ôl perthnasedd i'r chwiliad, ond gallwch aildrefnu'r canlyniadau mewn ffyrdd eraill, megis yn ôl awdur, teitl neu ddyddiad. Gall hyn helpu, er enghraifft, pan rydych yn chwilio am argraffiad penodol o waith.
Dod o hyd i fwy
Mae clicio ar deitl neu ddelwedd eitem ar y dudalen ganlyniadau'n rhoi i chi dudalen fanylion ar gyfer yr eitem honno. Ar ochr dde'r dudalen mae adran â'r pennawd Dod o hyd i fwy, yn dangos grwpiau o eiriau ac ymadroddion sy'n perthyn i'r eitem. Bydd clicio ar unrhyw un o'r rhain yn dechrau chwiliad newydd yn defnyddio'r ail air neu ymadrodd, gan edrych yn rhan berthnasol eitemau megis awdur neu bwnc.
Mae hyn yn caniatáu i chi archwilio'r catalog, a all fod yn ddefnyddiol pan nad ydych yn siŵr beth yn union rydych chi ei eisiau, ond rydych yn dod o hyd i rywbeth sy'n agos neu rydych wedi'i ddarllen o'r blaen.